DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

DYDDIAD

10 Hydref 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac Anifeiliaid (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019

 

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio

·         Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019.

·        Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Dyframaethu (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019.

·         Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) 2019  

·        Rheoliadau Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019

 

Offerynnau Ewropeaidd sy'n Uniongyrchol Gymwysadwy a ddiwygir gan Reoliadau 2019

 

·         Rheoliad (EU) 2019/1241

·         Rheoliad (EU) 2019/472

·         Rheoliad (EU) 2018/973

·         Rheoliad (EU) 2019/1241

·         Rheoliad (EU) 2019/472 

·         Rheoliad (EU) 2018/973

·         Rheoliad Dirprwyedig gan y Comisiwn (EU) 2019/906.

 

Diffyg newydd

 

·         Crëwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/906.

 

Dirymu

 

·         Rheoliad (EU) 2016/1139

·         Rheoliad (EU) 2019/473

·         Rheoliad (EU) 2019/1022

·         Rheoliad gan y Cyngor (EC) 768/2005 – dirymwyd ar lefel yr UE gan Reoliad (EU) 2019/473.

·         Rheoliad gan y Cyngor (EC) rhif 1386/2007 a 2115/2005 – dirymwyd ar lefel yr UE gan Reoliad (EU) 2019/833.

 

Diben y diwygiadau

Mae angen Rheoliadau 2019 mewn perthynas â thri chategori o ddiwygiad.

 

a)    Mae angen diwygiadau o ganlyniad i ddeddfwriaeth Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr EU a ddaeth i rym ar 29 Mawrth. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau uniongyrchol i ddeddfwriaeth yr UE ei hun a fydd yn sicrhau ei bod yn gweithredu'n effeithiol pan fydd yn dod yn gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael, yn ogystal â diwygiadau i offerynnau statudol presennol a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (a nodwyd uchod) lle mae deddfwriaeth a oedd wedi cael ei chywiro bellach wedi cael ei dirymu neu ei diwygio.

b)    Diwygiadau i ddeddfwriaeth a gafodd ei dadflaenoriaethu yn y gorffennol oherwydd ei natur ddianghenraid y gellir ei diwygio yn ystod yr estyniad cyn y diwrnod ymadael newydd.

c)    Mân gywiriadau y mae angen eu gwneud i bedwar offeryn statudol a gafodd eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru (fel y'u rhestrir uchod).

 

Mae enghreifftiau o fân gywiriadau a wneir gan yr offeryn hwn yn cynnwys newid cyfeiriadau at “yr Undeb Ewropeaidd” i “y Deyrnas Unedig”; a ”Cychod a dyfroedd yr Undeb” neu “yr Aelod-wladwriaeth” i “Cychod a dyfroedd y DU”.

 

Mae Rheoliadau'r UE sy'n dyblygu deddfwriaeth bresennol y DU yn cael eu dileu, a bydd darpariaethau nad ydynt yn gallu gweithredu o fewn y DU, neu nad ydynt yn berthnasol i'r DU y tu allan i'r UE, yn cael eu dirymu.

 

Mae Rheoliadau 2019 hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i offeryn statudol blaenorol (Ymadael â’r UE) ym maes iechyd a llesiant anifeiliaid mewn perthynas â chludo anifeiliaid. Mae Rheoliad 11 o Reoliadau 2019 yn diwygio Rheoliad Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019. Mae'r diwygiad yn dileu'r ddarpariaeth anghywir yn yr offeryn hwnnw y nodwyd ei bod yn gwrthdaro â diwygiad tebyg mewn offeryn arall (ymadael â'r UE).

 

Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/K1v1VCdU

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

I raddau helaeth mae rheoli pysgodfeydd, mewn perthynas â'u cychod a'u dyfroedd, wedi'i ddatganoli i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Felly, lle mae darpariaethau'n rhwymo Aelod-wladwriaethau'r UE i wneud rhywbeth, mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau hyn wedi cael eu newid i "weinyddiaeth pysgodfeydd", term sy'n cael ei ddiffinio mewn diwygiadau a wneir gan Reoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (ymadael â’r UE) 2019 ac sy'n berthnasol i holl Reoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a ddargedwir.

 

Mae iechyd a llesiant anifeiliaid yn fater sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ac mae felly'n fater sydd wedi'i ddatganoli.

 

Mae Rheoliadau 2019 yn rhoi swyddogaethau llunio rheoliadau, y gellir eu rhoi yn y categori "datganoledig" ar sail gydredol a hefyd yn rhoi swyddogaethau llunio rheoliadau y gellir eu rhoi yn y categori "datganoledig" i'r Ysgrifennydd Gwladol gyda chydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig.

 

Gallai swyddogaethau a drosglwyddir ar sail gydredol i'r Ysgrifennydd Gwladol fod yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006). Mae'n bosibl, felly, y gallai hynny gyfyngu ar gymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Er mwyn lleihau'r perygl hwnnw, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda'r bwriad o ddiwygio Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy Orchymyn o dan adran 109A o’r Ddeddf honno.

 

Mae swyddogaethau a drosglwyddir fel mai’r Ysgrifennydd Gwladol yn unig a gaiff eu harfer, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, yn swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd angen ymgynghori â Llywodraeth y DU

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Gweinidogion Cymru

Bydd Rheoliadau 2019 yn ehangu cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru yng ngoleuni’r gofyniad newydd i reoliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r cydsyniad sydd bellach ei angen yn eu cylch.

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Fel yr amlinellir uchod, mae angen Rheoliadau 2019 mewn perthynas â thri chategori o ddiwygiad:

 

a)    Mae angen diwygiadau o ganlyniad i ddeddfwriaeth Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr EU a ddaeth i rym ar 29 Mawrth. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau uniongyrchol i ddeddfwriaeth yr UE ei hun a fydd yn sicrhau ei bod yn gweithredu'n effeithiol pan fydd yn dod yn gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael, yn ogystal â diwygiadau i offerynnau statudol presennol a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (a nodwyd uchod) lle mae deddfwriaeth a oedd wedi cael ei chywiro bellach wedi cael ei dirymu neu ei diwygio.

b)    Diwygiadau i ddeddfwriaeth a gafodd ei dadflaenoriaethu yn y gorffennol oherwydd ei natur ddianghenraid y gellir ei diwygio yn ystod yr estyniad cyn y diwrnod ymadael newydd.

c)    Mân gywiriadau y mae angen eu gwneud i bedwar offeryn statudol a gafodd eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru (fel y'u rhestrir uchod).